Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (281)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys 1 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? |
Cwestiwn Brys 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pryderon newydd a godwyd gan berthnasau cleifion Tawel Fan ynghylch cyfathrebu gwael a diffyg cynydd o ran ymcwhiliadau’r bwrdd iechyd hyd yma? |
3 Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud) NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015. |
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NDM5789
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Cefnogir gan:
Eluned Parrott (Canol De Cymru) |
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5817 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm llaeth a chig oen.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll cig coch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;
b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;
c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a
d) gweithio tuag at gynnal blwyddyn cenedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen brys i ddiwygio'r ardoll cig coch ac yn croesawu'r gwaith gan Fforwm y Diwydiant Cig Coch i ddatblygu cynigion ar gyfer ailddosbarthu ardoll hon.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddechrau isbwynt 4(c):
'rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Fforwm y Diwydiant Cig Coch a'
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'Yn sefydlu gwobrau bwyd a diod newydd i Gymru i ddarparu meincnod cydnabyddedig o ragoriaeth o ran ansawdd i gynhyrchwyr a helpu i godi proffil bwyd a diod o Gymru yn y DU a thramor.'
Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau lladd-dy cig eidion a chig oen wedi'i leoli yng ngogledd Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor cynhyrchu cig coch yng Ngogledd Cymru.
Gwelliant 6 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am god ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd a siopau i neilltuo rhan o'u lloriau i gefnogi a hyrwyddo statws dynodiad daearyddol gwarchodedig o Gymru a chig tractor coch Prydeinig.
Gwelliant 7 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y canran o'r cynnyrch a gaffelir yn gyhoeddus sy'n dod o Gymru.
Gwelliant 8 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adolygiad Richardson o'r sector llaeth yn ddi-oed.
Mae'r Adolygiad Richardson ar gael yn:
Gwelliant 9 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ymestyn labelu gwlad tarddiad gorfodol i'r sector llaeth. |
6 Cyfnod pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5816 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal pobl rhag bod yn destun sgamiau. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Medi 2015